R -
Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi'i gyflwyno yn
Gymraeg.
(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn
cromfachau)
Gofyn i'r Gweinidog Addysg a Sgiliau
Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i'r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.
1. Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o'r ddarpariaeth o leoedd ar gynlluniau prentisiaeth yng Nghymru yn ystod 2015/16? OAQ(4)0486(ESK)
2. Mark Isherwood (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog amlinellu'r ddarpariaeth o wasanaethau i blant ag anghenion addysgol arbennig yng Nghymru? OAQ(4)0483(ESK)
3. Nick Ramsay (Mynwy): A wnaiff y Gweinidog nodi ei flaenoriaethau ar gyfer buddsoddi ym maes addysg yn sgil y cytundeb diweddar ar y gyllideb? OAQ(4)0482(ESK)
4. Janet Finch-Saunders (Aberconwy):A wnaiff y Gweinidog ddatganiad yn amlinellu cynlluniau i wella ansawdd addysg plant yng Nghymru? OAQ(4)0484(ESK)
5. Darren Millar (Gorllewin Clwyd): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar addysg grefyddol yn ysgolion Cymru? OAQ(4)0474(ESK)
6. Mick Antoniw (Pontypridd):Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o'r berthynas rhwng Twf Swyddi Cymru a rhaglenni gwaith Llywodraeth y DU? OAQ(4)0487(ESK)
7. Elin Jones (Ceredigion):Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael parthed datblygu ysgolion milfeddygol yng Nghymru? OAQ(4)0476(ESK)W
8. Peter Black (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar sut y mae Llywodraeth Cymru yn gwerthuso'r Grant Amddifadedd Disgyblion? OAQ(4)0471(ESK)
9. Lynne Neagle (Torfaen):A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynlluniau ar gyfer darparu addysg ôl-16 yn Nhorfaen? OAQ(4)0481(ESK)
10. Lindsay Whittle (Dwyrain De Cymru): Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael ynghylch ehangu addysg cyfrwng Cymraeg? OAQ(4)0478(ESK)
11. Paul Davies (Preseli Sir Benfro): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar wella addysg cyfrwng Cymraeg yng Nghymru? OAQ(4)0472(ESK)
12. Paul Davies (Preseli Sir Benfro): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar wella ysgolion yng ngorllewin Cymru? OAQ(4)0473(ESK)
13. John Griffiths (Dwyrain Casnewydd): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar addysg gorfforol yn ein hysgolion? OAQ(4)0477(ESK)
14. Aled Roberts (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf ynghylch adroddiad gwerthuso Prifysgol Caeredin? OAQ(4)0479(ESK)W
15. Peter Black (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar gyllid ar gyfer prentisiaethau i bobl dros 25 oed? OAQ(4)0470(ESK)
Gofyn i Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth
Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i'r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.
1. Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar dargedau Llywodraeth Cymru ar gyfer Gwerth Ychwanegol Gros yng Nghymru erbyn 2016? OAQ(4)0472(EST)
2. Llyr Gruffydd (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar wariant ar ffyrdd yng Ngogledd Cymru? OAQ(4)0473(EST)W
3. Mohammad Asghar (Dwyrain De Cymru): Pa gamau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gynyddu cymorth i fusnesau bach yng Nghymru erbyn diwedd 2014? OAQ(4)0458(EST)
4. Keith Davies (Llanelli):A wnaiff y Gweinidog roi diweddariad ar welliannau i orsafoedd trenau i'r gorllewin o Gaerdydd? OAQ(4)0465(EST)W
5. Janet Finch-Saunders (Aberconwy): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar y gwaith sy'n mynd rhagddo i wella'r A55? OAQ(4)0471(EST)
6. Jenny Rathbone (Canol Caerdydd):Sut y bydd Caerdydd yn elwa ar y gyllideb a ddyrannwyd i weithredu Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013? OAQ(4)0468(EST)
7. Elin Jones (Ceredigion): A wnaiff y Gweinidog roi diweddariad ar gynlluniau i ailagor yr orsaf drenau yn Bow Street, rhwng Aberystwyth a Machynlleth? OAQ(4)0460(EST)W
8. Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynllun peilot cyffordd 41 ar yr M4? OAQ(4)0463(EST)
9. Jeff Cuthbert (Caerffili): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ar ddyfodol y diwydiant awyrofod yng Nghymru? OAQ(4)0461(EST)
10. Eluned Parrott (Canol De Cymru):A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar y ddarpariaeth o drafnidiaeth gyhoeddus yng Nghanol De Cymru? OAQ(4)0464(EST)
11. Mike Hedges (Dwyrain Abertawe): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar ddatblygu economi dinas-ranbarth Bae Abertawe? OAQ(4)0462(EST)
12. Gwyn Price (Islwyn): Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o effaith cau Ffordd Goedwig Cwmcarn ar fusnesau yn Islwyn? OAQ(4)0466(EST) Trosglwyddwyd i'w ateb yn Ysgrifenedig gan y Gweinidog Cyfoeth Naturiol
13. Ann Jones (Dyffryn Clwyd):Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael ynghylch datblygu rhyddfraint rheilffyrdd dielw? OAQ(4)0470(EST)
14. Suzy Davies (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y Bil Treftadaeth? OAQ(4)0467(EST) TYNNWYD YN ÔL
15. Gwyn Price (Islwyn): Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o'r effaith y mae polisïau Llywodraeth y DU wedi'i chael ar economi Cymru? OAQ(4)0469(EST)